“Daliwch Sownd Bawb!” .................................................
Bydd cyfres gyflymaf S4C 'nôl ar y sgrin bob nos Iau ac yn cyrraedd ei uchafbwynt yn Rali Cymru GB.
Bydd Emyr a Lowri 'nôl i'n tywys ni oll trwy fyd Ralïo a mwy yng Nghymru a thu hwnt, yng nghwmni gweddill y tîm, Howard, Martin a Wyn.
A bois bach, mae digonedd i dynnu dwr o'r dannedd !
Dilynwch hanes bencampwriaeth WRC ac IRC , ralïau lleol, rhaglen arbennig i ddathlu pen-blwydd Rali Cilwendeg, rasys rhiwiau, rasio ar borfa, rasio cartiau, rasys 4x4 a heb anghofio'r hen ffefryn, y BRC! Hefyd, bydd rhaglenni arbennig ar gyfer diweddglo cyffrous y flwyddyn sef Rali Cymru GB!
Os taw dwy olwyn sy'n denu'ch sylw, bydd moto X, rali X, speedway a rasio moto-beics o Sir Fôn, hanes y “Dawn Till Dusk” a llawer mwy!
Ond ... ac mae hwn yn ond mawr ......yn wahanol eleni ...bydd Emyr, Lowri a Howard yn wynebu ambell her trwy gydol y gyfres gan ddangos eu doniau i bawb gartref ....... (wel dyna beth oedd y syniad) naill ai ar gefn beic neu y tu ôl i'r olwyn!
(nodyn wrth Emyr ... roedd gormod o ofn ar bawb yn y tîm i roi her i Wyn!)
Felly cofiwch bawb, byddwn ni 'nôl bob nos Iau ar S4C..............!