Neidio at y cynnwys

S4C

Newyddion

Diwedd Pennod
Diwedd Pennod
26.7.2010

Ar ôl treulio 11 mlynedd fel cyd-yrrwr Petter Solberg, mae'r Cymro Phil Mills wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau yn sedd y cyd-yrrwr, a chanolbwyntio ar rannau eraill o'i fywyd.

Dywedodd Phil “Dyma fu un o'r penderfyniadau anoddaf yr ydw i erioed wedi gorfod ei wneud, ond teimlaf bod yr amser wedi dod i ganolbwyntio ar rannau eraill o'm bywyd.  Rydym wedi cystadlu mewn 152 rali WRC gyda'n gilydd dros yr 11 mlynedd diwethaf, ac mae wedi dod yn ffordd o fyw yn hytrach na swydd.  Rydw i wedi mwynhau pob cilomedr, yr uchafbwyntiau a'r siomedigaethau ar hyd y daith, ac rydw i'n siwr y bydd Petter yn ennill sawl rali eto yn y dyfodol, dan yr amgylchiadau cywir.  Byddaf yn gweld eisiau'r byd wrc yn fawr iawn, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Petter a'r tîm yn y dyfodol”

Roedd gan Petter Solberg ddigon ar ei feddwl, hanner ffordd trwy'r flwyddyn WRC ac roedd colli cyd-yrrwr a fu wrth ei ymyl ers dros ddegawd, yn gryn ergyd  “Ydy mae Phil yn gadael y tîm, ac rydw i'n teimlo'n drist iawn am hynny.  Credaf y bydd yn anodd dod o hyd i gyd-yrrwr sy'n meddu ar ei sgiliau ef i eistedd wrth fy ochr.  Rydym wedi bod gyda'n gilydd am gymaint o flynyddoedd, yn wir, mae wedi bod wrth fy ymyl am y rhan fwyaf o'm gyrfa, felly mae hon yn sefyllfa anodd i mi.  Gan edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd, rydw i'n teimlo'n drist iawn gan fy mod wedi bod yn argyhoeddedig y byddem yn ennill rali y tymor hwn, ac roeddwn yn gobeithio cael Phil wrth fy ochr pan fyddai hynny yn digwydd.  Ef yw'r un sydd wedi golygu fwyaf i mi trwy gydol fy ngyrfa.  Rhaid mai ein perthynas ni fu'r berthynas gryfaf a welwyd erioed rhwng gyrrwr a chyd-yrrwr!

Fodd bynnag, bu'n rhaid i Petter Solberg symud ymlaen yn gyflym iawn a chael gafael ar gyd-yrrwr newydd, o ystyried y ffaith bod Rali Bwlgaria ar y gorwel.

Ar ôl dod i'r brig mewn prawf a gynhaliwyd ddechrau Gorffennaf, cyhoeddwyd mai'r gwr o Ogledd Iwerddon, Chris Patterson (41), fydd cyd-yrrwr newydd Petter Solberg.

Mae tasg fawr yn ei wynebu.

Bydd modd gweld cyfweliad ecsgliwsif gyda Phil Mills ar Ralïo +.

Bydd y gyfres newydd yn cychwyn ar nos Iau 29 Gorffennaf ar S4