Ar ôl llwyddiant y Daith Feicio Elusennol a gynhaliwyd y llynedd gan Feicwyr Ralïo Cymru, cynhelir y digwyddiad unwaith eto eleni, gan gychwyn o Gaergybi ar ddydd Llun 12 Gorffennaf a gorffen yn Abertawe ar ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf. Wrth gwrs, y nod yw codi miloedd o bunnoedd ar gyfer dwy elusen arbennig – Spinal Research ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Y Beicwyr
Mae David Llewellin, cyn bencampwr ralïo Prydain ddwywaith, wedi cytuno cymryd rhan. Mae'r gwr a enillodd bencampwriaeth Prydain ym 1989 a 1990 yn debygol o deithio gyda'r tîm ar eu diwrnod olaf hefyd sef dydd Sadwrn.
Bydd Mr Ralïo ei hun, Emyr Penlan, yn ymuno â'r beicwyr brwd hefyd.....................ond nid yw wedi dweud pryd na ble wrthym eto!
Hyd yn hyn, mae'r unigolion eraill sy'n gobeithio cymryd rhan yn cynnwys:
Damian Cole
Mark Lewis
Gwyndaf Evans
Nicky Grist
Elfyn Evans
Jason Pritchard
Carl Jones
Robart Williams
Darren Garrod
Ieuan Thomas
Matt Edwards
Damian Cole
Craig Drew
Aled Loveluck
Osian Pryce
Aled Lewis
Dale Furnis
Wyn Slim
Karen Morgan
Geraint Lloyd
Nosweithiau Elusennol
Ar y ffordd, cynhelir nosweithiau adloniant er mwyn codi arian ar gyfer y ddwy elusen benodol – Spinal Research ac Ambiwlans Awyr Cymru, gyda'r cyntaf yn cael ei threfnu gan Glwb Moduro Gogledd Cymru ac fe'i cynhelir yn eu clwb, Canolfan Gymunedol Cyffordd Llandudno, ar nos Fawrth 13 – bydd hon yn noson ddifyr dan arweiniad Howard Davies, ac fe fydd yn cynnwys arwerthiant, raffl a fforwm – mae'n siwr o fod yn noson llawn hwyl, felly dewch â'ch waled gyda chi i helpu achos da!
Bydd nosweithiau elusennol pellach yn cael eu trefnu gan Glwb Moduro Gororau Cymru (nos Fercher 14), Clwb Moduro Aberystwyth a'r Cylch neu Glwb Moduro Tregaron (nos Iau 15), Clwb Moduro Caerfyrddin (nos Wener 16) a Chlwb Moduro Port Talbot ar y diwedd.
Gallwch Chi Gymryd Rhan
O ddydd Llun 12 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf, bydd y tîm brwdfrydig yn mentro allan yn eu siorts lycra unwaith eto i gasglu arian ar hyd y daith, ar-lein, ac mewn digwyddiadau amrywiol a gynhelir ochr yn ochr â'r daith – ac mae croeso i chi ymuno â nhw.
Os hoffech ymuno â nhw ar gefn eich beic, cynnig help llaw wrth gasglu arian mewn bwced rywle ar hyd y daith, helpu i drefnu raffl neu fforwm un noson, darparu rhywfaint o ddeunydd beicio neu gynnig cymorth gyda'ch sgiliau coginio neu newid olwyn ar hyd y ffordd – cysylltwch â ni!
Os na fydd modd i chi fynychu, gallwch roi arian trwy'r wefan.
Eleni, cynhelir y digwyddiad rhwng 12 ac 17 Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth neu os hoffech noddi'r grwp, trowch at www.wrc-brc.co.uk, ac os hoffech gysylltu â Lewis, anfonwch e-bost at marklewismotorsport@tiscali.co.uk neu ffoniwch 078 4348 0276.