Neidio at y cynnwys

S4C

Newyddion

Dim 2 heb 3!
Dim 2 heb 3!
21.9.2009

Mae'n edrych yn hynod o debygol y bydd Calendr IRC y flwyddyn nesaf yn cynnwys 3 rali newydd ychwanegol, wrth i'r Alban symud yn ôl yn yr amserlen a rhoi'r anrhydedd i Cyprus o groesawu'r rownd derfynol.


Mae nifer o newidiadau ar y gweill, wrth i'r Ariannin a Japan ymuno â Cyprus ym mhencampwriaeth IRC, ac mae'n ymddangos mai Rwsia fydd yr unig wlad i golli'r cyfle.


Croesawyd y penderfyniad annisgwyl i gynnwys yr Ariannin, yn enwedig o ystyried mai hi yw'r dewis wrth gefn ar gyfer lle Bwlgaria ym mhencampwriaeth WRC.


Ond, pwysleisiodd Eurosport Events, sy'n rhedeg pencampwriaeth IRC, “na fydd unrhyw newidiadau i galendr 2010 yn cael eu cadarnhau gan FIA tan fis Tachwedd.  Mae unrhyw newidiadau sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd yn destun dyfalu ond bydd IRC yn cyhoeddi calendr dros dro yn ystod yr wythnosau nesaf.”