Ar ôl cryn ddyfalu, cadarnhawyd y bydd Kris Meeke yn cystadlu ym mhencampwriaeth IRC flwyddyn nesaf.
Er nad yw Meeke wedi ymrwymo i gytundeb ar gyfer tymor 2010 eto, mae wedi dweud mai “Hwn yw'r lle yr ydw i'n dymuno bod, ac mae cystadlu yn y ralïau hyn a'r bencampwriaeth hon yn bleser pur”. Ond, nododd y byddai'n ystyried pencampwriaeth WRC yn y dyfodol hefyd os byddai'r pecyn yn gywir.
Yn y cyfamser, mae Peugeot yn gobeithio parhau i gystadlu yn yr IRC flwyddyn nesaf gyda Meeke wrth y llyw.
Mae'n agos iawn ar hyn o bryd rhwng Kris Meeke a'i brif gystadleuwr, Jan Kopecky. Dim ond un pwynt sy'n eu gwahanu ar ôl 11 rownd.
Darlledir holl uchafbwyntiau ralïau IRC ar Ralïo+ dros yr wythnosau nesaf!