Neidio at y cynnwys

S4C

Newyddion

“Un funud fach!”
“Un funud fach!”
21.9.2009

Mae gobeithion Sebastien Loeb ar gyfer Pencampwriaeth 2009 wedi dioddef ergyd drom yn dilyn yr hyn a alwyd yn “gamgymeriad gweinyddol” gan Olivier Quesnel, pennaeth tîm Citroen.  Ar ôl cyrraedd y brig yn Rali Awstralia, canfuwyd troseddau technegol ar geir Tîm Citroen wrth eu harchwilio ar ôl y rali ac o ganlyniad, rhoddwyd cosb o funud iddynt.


Roedd hyn yn ddigon i symud Loeb i'r ail safle, gan roi'r fuddugoliaeth a'r pwyntiau uchaf gwerthfawr i yrrwr Ford, Mikko Hirvonen.


Darganfuwyd bod cyswllt “bar gwrthrolio” ceir Citroen yn hirach na'r cyswllt a restrwyd ym mhapurau cymeradwyo (Homologation) y ceir .  Dywedodd Quesnel “Rydym yn derbyn y penderfyniad.....nid oedd y newidiadau wedi cael unrhyw effaith ar berfformiad y car......camgymeriad gweinyddol syml ydoedd....ac nid yw'n brawf o unrhyw fwriad i dwyllo. ... Ar ran y Tîm, hoffwn ymddiheuro i Sebastien Loeb a Daniel Elena.
Mae Hirvonen 5 pwynt ar y blaen ar frig y tabl ac mae dwy rali ar ôl.  Dylai Loeb fod ar y blaen yn rali Sbaen a gynhelir ddechrau mis nesaf, ac fe ddylai hyn olygu y bydd y frwydr yn un gyffrous yn Rali GB yng Nghymru ddiwedd fis Hydref.  Mae Loeb a Hirvonen wedi ennill y rali hon yn y gorffennol.


Ffordd wych o orffen y tymor........cofiwch bod modd i chi weld yr holl uchafbwyntiau yma ar Ralïo+.