Rwy'n cofio gyrru am y tro cyntaf yn 7 oed ar gefn ‘Ffergi Fach’ ar fferm y teulu. Ond yn ystod fy arddegau cynnar, dechreuais ddysgu beth oedd gyrru go iawn – ydych chi'n gwybod bob hi'n bosibl drifftio tractor yn eithaf da ar glos llawn slyri?
Datblygais yn gyflym, gan basio fy mhrawf ar fore fy mhen-blwydd yn 17 oed, a 3 diwrnod yn ddiweddarach, llwyddais i chwalu fy ngar cyntaf yn rhacs jibidêrs (Volvo 340 GLS fy nhad) wrth i mi rasio yn erbyn Fiat Super Strada.
Y cerbyd cynta' i gael ei gofrestru dan fy enw i oedd Bws Mini Ford Transit o’r enw Marion. Fi oedd yn chwarae’r gitâr fâs mewn band ac roedd angen i ni gael cerbyd i fynd ar daith. Costiodd y bws £1600, ac ar ôl rhwygo’r rhan fwyaf o’r seddau mas ohoni, roedd digon o le i gadw kit y band yn y cefn. Buom yn teithio ar draws Ewrop yn y bws, roedd yn gyfnod gwych – roedd Marion yn goch a gwyn ac roedd ganddi 'arches' mawr. Y peth gorau amdani oedd drws y gyrrwr oedd yn sleidio 'nol a mlaen – convertible dyn tlawd!
Gan mai’r bws mini yr oeddwn i yn ei yrru man amla, roedd yn rhaid i mi yrru ceir fy nhad er mwyn cael profiad o yrru’n glou. Ond, cefais ddamwain arall ddim sbel wedi hyn. Collais reolaeth ar Fiat Regatta diesel tyrbo a thorrais fy ngwddf mewn sawl man. Treuliais 8 wythnos yn yr ysbyty a bu hyn yn ddigon i mi arafu am ychydig... hynny yw, nes i mi brynu Honda VFR 750F! 15 pwynt ar fy nhrwydded (2 o blant a gwraig) yn hwyrach, roedd yn rhaid cael gwared ar yr Honda! Nesa', prynais Fiat Tipo ac ar ôl hwnnw, Escort Mk III Diesel (a gafodd ei ddwyn o orsaf reilffordd Caerfyrddin – diolch byth!), wedyn Citroen Xantia (a gostiodd ffortiwn mewn biliau garej), Peugeot 306, dau Landrover Freelander, a Rover 200 a gafodd ei daro o’r tu ôl wrth groesfan sebra! Gan fy mod i’n oedolyn aeddfed a chyfrifol erbyn hyn, rydw i’n gyrru Focus diesel tyrbo bach ffyddlon.
Ar ol rhestri'r ceir uchod, dyma’r tro cynta’ i mi sylweddoli pa mor ddiflas yw fy hanes gyda cheir. Bydd yn rhaid i’r car nesaf fod yn Gar Rali Byd!
Y profiad ffilmio gorau i mi oedd wrth ymyl Naid Bunnings yn Awstralia yn 2006, pan hedfanodd Colin McCrae dros y neidiau (mae’r galeri yn cynnwys llun o hyn). Gwd thing!!