Un o gampau mwyaf nodedig Lowri yw’r ffaith ei bod wedi deifio i weld gweddillion y Titanic, gan mai dim ond 80 o bobl sydd wedi gwneud hynny. Fe’i rhestrwyd yn Dream Team Rygbi (Menywod) y Byd yn ’96 hefyd! Mae wrth ei bodd yn mentro ac mae’n hoffi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel sgïo oddi ar y piste (Vallée Blanche yw un o’i ffefrynnau), eirafyrddio (snowboarding), ôl-fyrddio (wake-boarding), sgwba-blymio ac yfed (dwr wedi’i ferwi).
Mae Lowri wedi rhedeg sawl marathon hefyd (ei hamser cyflymaf yw 3 awr ac 8 munud), mae wedi cystadlu mewn cystadleuaeth Ironman ac yn 2010, bydd yn cystadlu mewn ras 150 o filltiroedd ar draws Jyngl yr Amazon, a fydd yn para 7 diwrnod.
Gan mai hi yw’r unig ferch yng nghriw Ralïo, bydd y lleill yn tynnu ei choes yn aml, ond mae wedi dod yn gyfarwydd â’r hiwmor coch ac yn gallu ateb ’nôl!
Merch o Abertawe yw Lowri ac mae ganddi’r cymwysterau delfrydol ar gyfer y swydd – gradd mewn Cerddoriaeth, mae’n feiolinydd, cantores ac yn bianydd medrus! Wrth gwrs, mae gweithio gydag Emyr Penlan, sy’n bishyn a hanner, yn gwneud y swydd yn well fyth!!
A dyna Lowri Morgan..... (yng ngeiriau Emyr Penlan)