Daethpwyd o hyd i Howard Davies pan oedd yn blentyn bach yn crwydro'r mynyddoedd gerllaw Pantperthog. Nid oes unrhyw un yn gwybod o ble ddaeth Howard, ond credir ei fod yn gymysgedd o olew, rwber a Defaid, a grëwyd pan ollyngodd ychydig wastraff niwclear o Drawsfynydd oddi ar gefn lori, yna aeth pob car yn rali RAC 1965 dros ei ben.
Roedd hi'n amlwg y byddai'n datblygu i fod yn gyd-yrrwr gwych yn y dyfodol, gan ei fod wastad yn cyd-yrru ei fam i'r siop leol i brynu ei gacen hufen ddyddiol.
Wrth iddo dyfu, a thyfu ychydig mwy, cychwynnodd ar ei yrfa ralïo. Roedd yn un o'r cyd-yrwyr gorau yn y byd, a bu'n rhaid i Gwyndaf Evans ddioddef yn dawel er mwyn cystadlu ar y lefel uchaf. O ganlyniad i'w holl waith caled, gwelwyd y ddau yn ennill pencampwriaeth Ralïo Prydain ym 1996.
Mae wedi gweithio ar frig y goeden ralïo, gan edrych ar ôl cleientiaid pwysig ar gyfer Subaru a Ford ar hyd a lled y byd, a'u diddanu gyda'i wybodaeth a'i straeon o fyd Ralïo.
Bellach, mae'n gweithio fel plwmwr, gan geisio osgoi rhaglenni “X-RAY” a “THE FERRET” er mwyn parhau i wneud ei ffortiwn. Mae'n cyflwyno eitemau ar Ralïo + hefyd.
Ffaith Annisgwyl – mae'n gallu cofio pob cornel y mae erioed wedi cael damwain arni yn hynod o fanwl.