Neidio at y cynnwys

S4C

Amdanom Ni

yn ôl
  • Wyn Gruffydd
    Wyn Gruffydd

Does dim gwahaniaeth gen i beth mae’r “plant” Emyr a Lowri yn ei ddweud, yr “hen foi”, fi hynny yw, yw’r unig un i yrru mewn rali go iawn. Falle fod dros ugain mlynedd oddi ar hynny, ond rwy’n ddiolchgar iawn i Glyn Jones a Ryland James am eu cymorth ar rali’r Quinton Stages nôl ym mis Gorffennaf 1987.

A dweud y gwir mae Ryland yn ffodus ei fod e’ wedi gallu dathlu ei bum canfed rali ar gymalau coffa Colin McRae yn ddiweddar, oherwydd taswn i wedi rhyddhau fy hunan o’r gwregys diogelwch pan oedd ein Escort MkII ar ei ochr mewn ffos, fe allai hynny fod wedi bod yn ddigon am fywyd y cydyrrwr sydd gyda’r mwyaf poblogaidd yn y gamp.  

Beth digwyddodd? Wel roeddwn i yn meddwl ar ôl tridiau yn ysgol ralio Bill Gwynne yn Banbury y gallwn i ymdopi a rhywbeth a allai fforestydd y canolbarth eu taflu ata i. A phan welais i dorf go dda wrth ddod i mewn i gornel llydan chydig feddylies i taw aros i rhyw dwpsyn fel fi i wneud camgymeriad oedd y rheswm dros eu presenoldeb yn yr union fan honno. 

Diwrnod i’w gofio, nid fel hwnnw rhyw dair blynedd yn ddiweddarach pan brofodd hewl Llanbed yn rhy gul i MG Metro Turbo oedd gen i un tro. Ers hynny bu gen i res o geir “diesel” ond does neb yn siwr iawn be sy’ gen i o dan fonnet fy Mondeo ST presennol serch hynny!

Dw i wrth fy modd yn gweithio ar Ralïo sy’n fy nghymryd i yn ôl at y dyddiau da pan fyddwn i yn dilyn Glyn a Ryland ar Raliau’r RAC a Network Q, a chael cyfle i gyfweld a mawrion y gamp megis Ari Vaatanen, Juha Kankhunen, Carlos Sainz, Didier Auriol, Marku Allen  ac eraill, heb anghofio Colin McRae a Richard Burns wrth gwrs, a weithiau yng nghanol nos neu oriau mân y bore yng  nghoedwigoedd Kielder, “grizzly” Grisedale, neu Chlocaenog.

Braf nawr hefyd yw gweld Gareth, mab Glyn yn cymryd ati, fel Elfyn mab Gwyndaf (does dim angen cyfenw oes e’?)  , a chael llond hewl o sbort yng nghwmni Phil Pugh, y “cog bech” o Dywyn.

Falle mod i’n “tynnu ‘mlaen,” ond mae’r awydd am Impreza bron yn mynd yn drech na fi weithiau gyda’r awydd am “gar glas” yn fwy na honno am y “bilsen las” sy’n gwneud gwyrthiau i rywun o fy oedran i. Saethwch fi rywun – plis! Ond dim eto!